Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (257) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 7 eu grwpio. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd llefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 4 a 6 i 10. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd llefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.01
NDM5713
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad economaidd diwydiant dur Cymru a'r miloedd o swyddi y mae'n eu cefnogi;
2. Yn gresynu at y ffaith bod y mewnforion tramor sy'n llifo i mewn i'r farchnad wedi creu sefyllfa anghyfartal; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r siarter ar gyfer dur cynaliadwy Prydeinig a fydd yn arwain at sefyllfa lle bydd pob proses gaffael llywodraeth mewn perthynas â barrau atgyfnerthu dur carbon yn bodloni safon cyrchu cyfrifol BES 6001.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5735 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd a photensial y diwydiannau creadigol i'n bywyd diwylliannol ac economi Cymru;
2. Yn gresynu at y diffyg eglurder y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig mewn perthynas â:
(a) dyfodol y Panel Diwydiannau Creadigol; a
(b) y camau nesaf o ran cyflawni'r blaenoriaethau sydd wedi eu nodi ar gyfer y sector yn Nghynllun Cyflenwi'r Sectorau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am unrhyw gynnydd yn y maes hwn yn dilyn Adroddiad Hargreaves;
b) amlinellu unrhyw ymchwil newydd sydd wedi cael ei gomisiynu mewn perthynas â'i strategaeth ar gyfer y sector diwydiannau creadigol; ac
c) esbonio sut y mae targedau ar gyfer buddsoddiad stiwdio Pinewood a'r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau yn eu cyfanrwydd wedi cael eu gosod, a nodi manylion ynghylch pa mor llwyddiannus y mae'r buddsoddiadau hyn wedi bod yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
28 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu pwysigrwydd datblygiadau fel Stiwdios y Bae yn Abertawe a datblygiad S4C yng Nghaerfyrddin i'r economïau lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu isbwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
gweithio gyda darlledwyr a rhwydweithiau fel y BBC, C4, ITV ac S4C er mwyn cynyddu cyfleoedd buddsoddi yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5735 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi pwysigrwydd a photensial y diwydiannau creadigol i'n bywyd diwylliannol ac economi Cymru;
2.Yn croesawu pwysigrwydd datblygiadau fel Stiwdios y Bae yn Abertawe a datblygiad S4C yng Nghaerfyrddin i'r economïau lleol.
3. Yn gresynu at y diffyg eglurder y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig mewn perthynas â:
(a) dyfodol y Panel Diwydiannau Creadigol; a
(b) y camau nesaf o ran cyflawni'r blaenoriaethau sydd wedi eu nodi ar gyfer y sector yn Nghynllun Cyflenwi'r Sectorau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am unrhyw gynnydd yn y maes hwn yn dilyn Adroddiad Hargreaves;
b) amlinellu unrhyw ymchwil newydd sydd wedi cael ei gomisiynu mewn perthynas â'i strategaeth ar gyfer y sector diwydiannau creadigol;
c) esbonio sut y mae targedau ar gyfer buddsoddiad stiwdio Pinewood a'r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau yn eu cyfanrwydd wedi cael eu gosod, a nodi manylion ynghylch pa mor llwyddiannus y mae'r buddsoddiadau hyn wedi bod yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol; a
d) gweithio gyda darlledwyr a rhwydweithiau fel y BBC, C4, ITV ac S4C er mwyn cynyddu cyfleoedd buddsoddi yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
5 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5733 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu adleoli system arfau niwclear y DU i Gymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau yn nodi hyn i Lywodraeth y DU;
3. Yn gwrthwynebu adnewyddu neu newid y system Trident bresennol gan Lywodraeth y DU; a
4. Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi niwclear ledled y byd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
38 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble i leoli arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
13 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5733 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble i leoli arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
9 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.42
7 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.46
NDM5734 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cadw lonydd gwyrdd yn wyrdd: gweithio i annog pobl i beidio â gyrru oddi ar y ffordd yng ngogledd Cymru
Bydd y ddadl hon yn ymdrin â'r effaith y mae'r weithgaredd hamdden newydd a phoblogaidd o yrru ar lonydd gwyrdd yn ei chael ar gefn gwlad gogledd Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.03
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2015